Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10
Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021
(45 munud)
4 Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020
(15 munud)
NDM7451 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
5 Cyfnod pleidleisio
6 Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
(300 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Etholiadau llywodraeth leol
84, 85, 1, 86, 87, 99, 101,102, 103,104,105, 2, 106, 62, 64, 65, 66, 67, 147, 58, 59, 60, 61, 79, 55, 56
2. System bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol
152, 88, 89, 153, 154, 90, 91, 92, 94, 93, 95, 96, 97, 155, 98, 156, 100, 157, 145, 176, 146, 63, 177, 83, 151, 148, 168, 137, 169, 170, 171, 144
3. Safonau’r Gymraeg
158, 159, 165, 166
4. Pŵer cymhwysedd cyffredinol
107, 3, 108, 109, 110, 68, 74, 69
5. Cyfranogiad y cyhoedd
111, 112, 113, 114, 115, 116, 117
6. Cyfarfodydd awdurdodau lleol
6, 7, 8, 9, 10, 77, 12, 13, 14, 15, 118, 16, 17, 18, 70, 4, 5, 50, 51, 52, 72, 53
7. Aelodau a swyddogion awdurdodau lleol
119, 80, 75
8. Cydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu swydd
161, 178, 179, 162, 163, 160, 172, 174
9. Cyd-bwyllgorau corfforedig – pan na fo cais wedi ei wneud
164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175
10. Cyd-bwyllgorau corfforedig – gofynion eraill
19, 123, 124, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 132, 134, 149, 76, 150
11. Perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu
136, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 81, 82
12. Ailstrwythuro awdurdodau lleol
138, 139, 140, 39, 141, 71, 40, 41, 42, 43, 44, 73, 78
13. Rhan 9 – amrywiol
45, 46, 47, 54
14. Awdurdodau tân ac achub
142, 48, 49, 57
15. Iawndal i brif gynghorau
143
Dogfennau Ategol
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2)
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020